Mae mwy na 170 o wleidyddion yng ngwledydd Prydain yn galw am ddiwygio’r gyfraith ar erthylu yng Ngogledd Iwerddon er mwyn amddiffyn hawliau menywod.

Mae pwysau ar Lywodraeth Prydain i fynd i’r afael â’r sefyllfa yn dilyn galwadau gan wleidyddion Ceidwadol, Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol, Aelodau’r Cynulliad yn Stormont a seneddwyr Iwerddon.

Maen nhw’n dadlau y byddai newid y gyfraith yn bodloni gofynion Cytundeb Gwener y Groglith, gan ddweud bod hyd at 1,000 o fenywod wedi’u gorfodi i deithio i wledydd Prydain yn 2017 i gael erthyliad diogel, tra bod eraill wedi gorfod cymryd cyffuriau erthylu yn eu cartrefi eu hunain.

Ac mae pwysau ar Ogledd Iwerddon i ddilyn esiampl Gweriniaeth Iwerddon, sydd eisoes wedi diwygio’r gyfraith i gyfreithloni erthyliadau.

Mater datganoledig

Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Prydain wedi mynnu mai yn nwylo Gogledd Iwerddon mae’r mater gan fod pwerau wedi’u datganoli.

Ond mae pwysau arnyn nhw i weithredu oherwydd diffyg cytundeb i rannu grym yn Stormont.

Mae’r DUP, sy’n cefnogi Llywodraeth Geidwadol Prydain, yn wrthwynebwyr chwyrn i newid yn y gyfraith.

Llythyr

Mewn llythyr yn y Sunday Times, mae’r gwleidyddion wedi annog Llywodraeth Prydain i ddiwygio adrannau 58 a 59 y Ddeddf Troseddau yn erbyn y Person 1861, sy’n golygu ei fod yn anghyfreithlon i fenyw gael erthyliad yng Ngogledd Iwerddon.

Byddai newid y gyfraith, meddai’r llythyr, yn “gam cyntaf a hanfodol bwysig” tuag at newid y ffordd y caiff menywod eu trin yng Ngogledd Iwerddon.

Ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r llythyr mae’r Ceidwadwyr Sarah Woollaston, Nicky Morgan a’r Farwnes Warsi.

Mae aelodau Sinn Fein a Fine Gael, yn ogystal â’r Blaid Lafur, hefyd wedi cefnogi’r llythyr.

‘Nid mater o wleidyddiaeth mo hwn’

Dywedodd llefarydd ymgyrchoedd Amnest Rhyngwladol yng Ngogledd Iwerddon fod yna “fwriad na ellir ei dorri” i roi pwysau ar Lywodraeth Prydain i ddiwygio’r gyfraith.

“Nid mater o wleidyddiaeth mo hwn; mae’n fater o hawliau dynol.

“Mae menywod yng Ngogledd Iwerddon yn haeddu mynediad i erthyliad diogel a chyfreithlon yn rhad ac am ddim heb gael eu gorfodi i deithio – fel pob menyw arall yn y DU.

“Sgandal llwyr yw ein bod ni’n cael ein gadael ar ôl.”