Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi i ddyn gael ei saethu’n farw yn ninas Wolverhampton.

Fe gafodd yr heddlu eu galw am 9.10yh neithiwr (nos Wener, Gorffennaf 20), ond cyn eu bod nhw wedi cyrraedd y cyfeiriad, fe gafodd swyddogion Heddlu’r West Midlands wybod fod y dyn yn ei 20au wedi’i gludo mewn car i Ysbyty New Cross.

Fe gafodd y claf ei drosglwyddo wedyn i Ysbyty’r Queen Elizabeth yn Birmingham, ond ofer fu ymdrechion y staff yno i achub ei fywyd, a bu farw am 2yb fore Sadwrn, Gorffennaf 21.

Mae disgwyl i brawf post mortem ddigwydd fory (dydd Sul).

Yn y cyfamser, mae mwy o swyddogion a heddlu arfog ar batrol ar y strydoedd yn Wolverhampton.