Mae Llywodraeth Prydain wedi addo buddsoddi £8m ar gyfer cronfa a fydd yn helpu plant sy’n didodde’ o drais yn y cartre’.

Bydd y gronfa ar gael i elusennau, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sy’n ceisio mynd i’r afael â’r broblem.

Daw’r cyhoeddiad wrth i ffigyrau gan elusen NSPCC ddangos bod un plentyn ym mhob pump yn y Deyrnas Unedig wedi bod yn dyst neu’n gorfod delio â thrais ddomestig.

Mae ffigyrau eraill wedyn ar gyfer y cyfnod 2016/17 yn dangos bod bron 2m o oedolion yng Nghymru a Lloegr wedi dioddef rhyw ffurf o drais ddomestig yn ystod y flwyddyn flaenorol.

‘Angen cymorth’

Yn ôl Almudena Lara, pennaeth polisi gyda’r elusen NSPCC, maen nhw’n derbyn miloedd o alwadau yn flynyddol am blant sy’n ofni byw gyda thrais ddomestig.

“Rydym ni eisiau i bob plentyn, a’u rhieni, sydd wedi dioddef o drais yn y cartre’ i gael mynediad i’r gwasanaethau iawn er mwyn helpu eu cadwn saff ac i oroesi’r profiadau trawmatig hyn,” meddai.