Fe fydd Theresa May yn dweud wrth yr Undeb Ewropeaidd (UE) bod angen newid ei agwedd tuag at Brexit gan rybuddio bod agweddau blaenorol yn “anymarferol”.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddefnyddio araith ym Melfast ddydd Gwener i bwysleisio unwaith eto na fydd yn derbyn cytundeb sy’n trin Gogledd Iwerddon yn wahanol i weddill y Deyrnas Unedig (DU).

Fe fydd hi’n dweud y byddai cytundeb o’r fath yn mynd yn groes i Gytundeb Gwener y Groglith a oedd wedi dod a heddwch i Ogledd Iwerddon 20 mlynedd yn ôl, wedi degawdau o wrthdaro.

Yn dilyn cyhoeddiad papur gwyn y Llywodraeth a gafodd ei gytuno yn Chequers, fe fydd Theresa May yn dweud ei bod yn “bryd i’r UE ymateb” a’i bod yn edrych ymlaen at ail-ddechrau “trafodaethau adeiladol.”

Fe fydd y 27 o wledydd eraill yr UE yn cael cyfle i astudio ac ymateb i’r papur gwyn pan fydd gweinidogion y Cyngor Cyffredinol yn cwrdd ym Mrwsel dydd Gwener.

Mae’r ffin gydag Iwerddon wedi bod yn un o’r prif feini tramgwydd yn ystod y trafodaethau Brexit.