Mae rhieni a neiniau a theidiau yn fwy pryderus nag erioed am blant sy’n agored i gael eu cam-drin ar-lein.

Ac maen nhw’n poeni mwy amdanyn nhw’n cael eu gwawdio neu eu bwlian ar-lein, nag y maen nhw rhag iddyn nhw feithrin perthynas amhriodol, yn ôl arolwg canlyniadau arolwg.

Mae’r arolwg, gan wefannau Mumsnet a Gransnet, hefyd yn awgrymu nad yw llawer o oedolion wedi siarad yn benodol â’u plant am faterion fel cadw’n ddiogel ar rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol, neu wrth ddefnyddio camerau gwe a llif byw.

Yn gyffredinol, dywed bron i wyth o bob 10 (78%) o’r 1,000 o rieni a neiniau a theidiau a gafodd eu holi, eu bod yn pryderu bod eu plant yn agored i ddelweddu rhywiol neu bornograffi – gan wneud hyn y pryder mwyaf cyffredin.

Mae ychydig dros dri chwarter (76%) yn dweud eu bod yn pryderu am fwlian, tra bod yr un gyfran hefyd yn poeni bod pobol ifanc yn agored i bobol annymunol neu ymosodol yn eu trolio neu’n defnyddio iaith anweddus.

Roedd hon yn ganran uwch nag a ddywedodd eu bod yn poeni am bobol ifanc sy’n agored i ddelweddau treisgar (74%) a meithrin perthynas amhriodol ar-lein (69%).