Mae lefelau trosedd bellach yn “sefydlogi” yng Nghymru a Lloegr, ond mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos fod yna “naid” mewn lladdiadau a throseddau yn ymwneud â chyllyll.

Yn y deuddeg mis hyd at fis Mawrth eleni, fe wnaeth heddluoedd yng Nghymru a Lloegr gofnodi cyfanswm o 5.5 miliwn o droseddau – cynnydd o 11% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Ac eithrio achosion sy’n gysylltiedig ag ymosodiadau brawychiaeth a thrychineb Hillsborough, cynyddodd nifer y lladdiadau a gofnodwyd 12% flwyddyn ar ôl blwyddyn, o 627 i 701.

Cofrestrodd yr heddlu 40,147 o droseddau yn ymwneud â chyllyll neu offerynnau miniog yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth, cynnydd o 16% ar 2016/17 a’r nifer uchaf ers 2010/11.

“Dros y degawdau diwethaf, rydym wedi gweld gostyngiad yn y lefelau troseddau cyffredinol, tuedd sydd bellach yn edrych i fod yn sefydlogi,” meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wrth gyhoeddi’r data.

“Ac (ar wahân i droseddau cyllyll) mae ffigurau heddiw yn dangos darlun gweddol sefydlog yng Nghymru a Lloegr am y rhan fwyaf o fathau o droseddau.”