Fe fydd y cyn-Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson yn egluro wrth Dŷ’r Cyffredin yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 18) pam ei fod wedi ymddiswyddo.

Mae e wedi cael caniatâd y Llefarydd John Bercow i wneud anerchiad yn dilyn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog. Ac fe allai achub ar y cyfle i feirniadu ymdriniaeth y Prif Weinidog, Theresa May o broses Brexit.

Mae hithau dan gryn bwysau wrth iddi hefyd wynebu dau bwyllgor o aelodau seneddol heddiw, wrth iddi geisio uno llywodraeth ranedig.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd Theresa May yn bresennol ar gyfer anerchiad Boris Johnson.

Mae’r achlysur yn cael ei gymharu ag araith Syr Geoffrey Howe yn 1990 a arweiniodd at ymddiswyddiad Margaret Thatcher naw diwrnod yn ddiweddarach.

Ymddiswyddiad

Pan ymddiswyddodd Boris Johnson ddydd Llun diwethaf, fe ddywedodd y byddai cynlluniau Brexit Theresa May yn “coloneiddio” Prydain.

Nos Fawrth, llwyddodd Theresa May i wrthsefyll gwrthdystiad gan y Ceidwadwyr a allai fod wedi ei gorfodi i geisio cadw Prydain yn rhan o’r undeb tollau – ond enillodd hi’r bleidlais o 307 i 301 gyda chymorth Llafur.

Ond cafodd hi ei threchu ar welliant i’r Bil Masnach, sy’n golygu y bydd rhaid iddi geisio cadw Prydain o dan y drefn Ewropeaidd ar gyfer rheoleiddio meddyginiaethau ar ôl Brexit.

Yn dilyn wythnos anodd, mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Anna Soubry wedi galw am undod tros Brexit er mwyn sicrhau sefydlogrwydd yn ystod y broses, gan awgrymu mai Jacob Rees-Mogg, ac nid Theresa May, sydd bellach “yn rhedeg y wlad”.

Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain amlinellu eu cynlluniau dros yr wythnosau nesaf ar gyfer sefyllfa lle na fydd cytundeb ar amodau Brexit.