Mae disgwyl dyfarniad yn ddiweddarach i’r achos cyfreithiol rhwng Syr Cliff Richard a’r BBC.

Mae’r cerddor 77 oed wedi galw am iawndal gan y darlledwr, yn dilyn eu darllediad o gyrch ar ei dŷ ym mis Awst 2018.

Cafodd y cyrch ei gynnal gan Heddlu De Swydd Efrog yn sgil adroddiadau bod y cerddor wedi ymosod ar blentyn yn rhywiol.

A tra bod heddlu yn chwilio trwy’r tŷ yn Sunningdale, Berkshire; mi anfonodd y BBC hofrenyddion i’w ddarlledu.

Mae Cliff Richard wedi gwadu’r honiad yn ei erbyn, ac wedi galw’r hyn wnaeth y BBC yn “sathriad difrifol ar breifatrwydd”.

Mae BBC wedi gwrthod honiadau’r cerddor gan fynnu y gwnaethon nhw adrodd ei safbwynt “yn ystod pob cam”.