Diwrnod heriol arall sy’n wynebu Theresa May heddiw, yn dilyn noson ddramatig yn Nhŷ’r Cyffredin nos Fawrth (Gorffennaf 17).

Neithiwr, fe lwyddodd Prif Weinidog Prydain i guro gwelliant i’w chynlluniau Brexit o ddim ond chwe phleidlais (307 i 301). Roedd y gwelliant yn galw am gadw gwledydd Prydain yn yr Undeb Tollau.

Ond methodd Theresa May ag atal ail welliant, a fydd yn golygu bydd yn rhaid i’r Deyrnas Unedig gydymffurfio â rheolau Ewropeaidd tros feddyginiaeth.

Ceidwadwyr sydd yn erbyn Brexit wnaeth gynnig y gwelliant gyntaf, ac fe bleidleisiodd 12 Tori yn erbyn y chwip.

Hefyd, gwrthryfelodd sawl un o rengoedd Llafur, ac ochri â nhw.

Diwrnod arall

Yn ddiweddarach heddiw (Gorffennaf 18), bydd sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn cael ei gynnal, ac mi fydd Theresa May yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyswllt.

Tra bydd y Prif Weinidog gerbron y pwyllgor, bydd dadl yn cael ei gynnal yn y brif siambr ar ddyfodol y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Ac mae rhai yn credu y bydd Boris Johnson, cyn-Ysgrifennydd Tramor, yn defnyddio’r cyfle i gorddi, a gwneud datganiad am ei ymddiswyddiad.