Parhau i gynyddu mae’r pwysau ar Theresa May, wrth iddi wynebu heriau yn Nhŷ’r Cyffredin i’w chynlluniau Brexit.

Bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio tros gyfres o welliannau i gynlluniau’r Prif Weinidog ddydd Llun (Gorffennaf 16).

Ac yno mae disgwyl y bydd aelodau o’i phlaid ei hun yn peri her iddi – Ceidwadwyr a bleidleisiodd o blaid Brexit, yn ogystal â rhai a bleidleisiodd yn ei erbyn.

Mae Torïaid sydd o blaid Brexit yn ogystal ag aelodau gwrth-Brexit wedi cynnig gwelliannau i gynlluniau’r Prif Weinidog.

Ac mae’n debyg bod Ceidwadwyr sy’n ffafrio Brexit wedi sefydlu grŵp WhatsApp – ap negeseuon – er mwyn medru pleidleisio yn erbyn Theresa May, ar y cyd.

Ail refferendwm?

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Addysg,  Justine Greening, eisoes wedi beirniadu cynlluniau Theresa May gan ddweud eu bod yn cynnig y “gwaethaf o’r ddau fyd”, ac mae wedi galw am ail refferendwm.

A bellach mae llefarydd y Prif Weinidog wedi ymateb trwy ddweud: “Mae’r cyhoedd wedi pleidleisio tros adael yr Undeb Ewropeaidd. Ni fydd ail refferendwm, dan unrhyw amgylchiadau.”