Mae adroddiadau’n awgrymu mai o botel o bersawr y daeth y Novichok a wenwynodd cwpl yn Amesbury.

Cafodd Charlie Rowley, 45, a’i bartner, Dawn Sturgess, 44, eu gwenwyno’r mis diwetha’, a bellach mae’r ddynes wedi marw.

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd Matthew Rowley, bod ei frawd Charlie, wedi cyffwrdd â’r botel honno.

Mae’r Heddlu Metropolitan eisoes wedi datgelu mai o botel fach yn nhŷ’r cwpwl, y daeth y gwenwyn.

Mae’r heddlu wrthi’n ceisio darganfod os oes yna gysylltiad rhwng yr achos yma, ac ymosodiad wenwyn yng Nghaersallog ym mis Mawrth.

Cafodd y cyn-ysbïwr o Rwsia Sergei Skripal, a’i ferch Yulia, eu gwenwyno bryd hynny, ac mae’n ddigon posib mai’r un cyflenwad o Novichok a fu’n gyfrifol am y ddau achos.