Wrth agor sioe awyr Farnborough heddiw, fe fydd Theresa May yn dweud y bydd ei chynllun Brexit dadleuol yn diogelu miliynau o swyddi yn y diwydiant awyrofod.
Fe fydd y Prif Weinidog yn defnyddio’r achlysur ddydd Llun, 16 Gorffennaf i ddadlau bod sefydlu “rheolau cyffredin” gyda’r Undeb Ewropeaidd o ran nwyddau a thollau yn sicrhau bod masnach “esmwyth” rhwng cwmnïau yng ngwledydd Prydain, fel Bombardier, Rolls-Royce ac Airbus, ac Ewrop yn parhau ar ôl Brexit.
Dywedodd y byddai’r cynllun yn sicrhau safle’r Deyrnas Unedig fel cenedl sy’n arwain ym maes datblygiadau awyrofod.
Daw ei sylwadau’n wythnosau’n unig ar ol i Airbus fygwth lleihau ei bresenoldeb yn y DU wedi Brexit.
Fe fydd Theresa May yn cyhoeddi £343 miliwn yn ychwanegol ar gyfer ymchwil a datblygiad yn y maes heddiw wrth ymweld â safle Farnborough.
Mae’r sioe awyr, yr ail fwyaf yn y byd, yn parhau tan ddydd Sul