Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi rhybuddio am y posibilrwydd o gefnu ar drafodaethau Brexit heb gytundeb oni bai bod gwrthdystwyr yn ei chefnogi.

Dywedod fod y gwrthdystiadau gan wleidyddion ar y ddwy ochr oddi mewn i’w phlaid yn tanseilio’r ymdrechion i sicrhau cytundeb gyda Brwsel cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Daeth ei rhybudd mewn erthygl yn y Mail on Sunday, lle mae hi’n rhoi siars i aelodau ei phlaid i gymryd agwedd “ymarferol” tuag at y trafodaethau, neu wynebu’r perygl o “Brexit niweidiol”.

Masnach rydd

Dywedodd ei bod hi’n cydnabod pryderon rhai o’i haelodau seneddol am y cynlluniau ar gyfer masnachu rhydd, ond does dim opsiwn arall ar hyn o bryd, meddai.

Cafodd y cynlluniau eu derbyn yn dilyn cyfarfod yn Chequers, ac maen nhw’n cynnwys cadw draw o greu ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

“Rhaid i ni gadw ein llygaid ar y wobr,” meddai. “Os nad ydyn ni’n gwneud hynny, rydyn ni’n wynebu’r risg o beidio â chael Brexit o gwbl.

“Dw i’n gwybod fod rhai sydd â phryderon am y ‘llyfr rheolau cyffredin’ o ran nwyddau, a bydd y trefniadau tollau rydyn ni wedi eu cynnig yn tanlinellu’r ardal fasnach rydd rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaid. Dw i’n deall y pryderon hynny.

“Ond ni all gwaddol Brexit fod yn ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon sy’n datglymu’r Cytundeb Belfast hanesyddol.”

Gwelliannau

Fe fydd y Bil Masnach yn cael ei drafod yn San Steffan ddydd Mawrth, ac mae disgwyl i welliannau gael eu cyflwyno gan Geidwadwyr ar y naill ochr i’r ddadl a’r llall.

Dywedodd y gallai’r gwelliannau beryglu cynlluniau Llywodraeth Prydain ar gyfer sefyllfa lle na fyddai cytundeb ar ddiwedd y trafodaethau.

Yn ôl Theresa May, all y Llywodraeth ddim derbyn gwelliant a fyddai’n cadw Prydain yn yr undeb dollau ar ôl Brexit.

Byddai hynny, meddai, yn gyfystyr â “bradychu” y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Does dim disgwyl i Lafur gefnogi’r gwelliannau.

Mae Ysgrifennydd Brexit David Davis, y Gweinidog Tramor Boris Johnson a Gweinidog Brexit Steve Baker ill tri wedi ymddiswyddo’n ddiweddar yn sgil y trafodaethau.