Mae miloedd wedi bod yn gorymdeithio drwy Gaeredin heddiw mewn trydydd diwrnod o brotestiadau yn erbyn Donald Trump ar ei ymweliad â Phrydain.

Roedd torfeydd y tu allan i senedd yr Alban cyn cychwyn am ardal Meadows o’r ddinas, lle’r oedd balŵn 20 troedfedd o fabi’n edrych fel arlywydd America.

Roedd awyrgylch carnifal i’r digwyddiad, gyda llawer o’r protestwyr yn cario baneri gyda negeseuon fel ‘Dump Trump’ a ‘Bolt ya rocket’.

Yn ôl y trefnwyr, fe wnaeth 60,000 o bobl gymryd rhan yn y protestiadau, er bod heddlu’r Alban, sy’n diolch i bawb a gymerodd ran am eu hymddygiad da, yn amcangyfrif y nifer yn llawer is ar 9,000.

Ymhlith y siaradwyr roedd aelodau seneddol o’r SNP, Llafur, y Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

‘Dim croeso’

“Does dim croeso i Donald Trump yma,” meddai Richard Leonard, arweinydd Llafur yr Alban. “Dyw’r protestiadau hyn ddim yn ymwneud â’i wleidyddiiaeth yn unig, ond â’i werthoedd moesol yn ogystal.”

Yn y cyfamser, roedd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn arwain prif ddigwyddiad LGBT Pride yr Alban yn Glasgow.

Dywedodd fod adroddiadau am Donald Trump yn ei chasáu ac wedi cwyno amdani wrth Theresa May yn rhoi cryn ddifyrrwch iddi.

“Dw i’n ei chael hi’n anodd fod gan arlywydd yr Unol Daleithiau, gyda’r holl bethau pwysig sy’n rhaid iddo’u gwneud yn cael amser i gwyno amdana’ i,” meddai.

“Os yw hynny’n wir, mae’n debyg y dylwn ei gymryd fel clod – yn sicr dw i ddim yn treulio cymaint o amser yn meddwl amdano ef.”