Dylai’r llywodraeth alw etholiad os nad yw’n gallu sefydlu perthynas gall gydag Ewrop, yn ôl Jeremy Corbyn.

Gan gyhuddo’r Prif Weinidog o ddiffyg eglurder yn ei hymdriniaeth o Brexit, dywed arweinydd Llafur y byddai’n pleidleisio yn erbyn unrhyw gytundeb sy’n niweidio safonau byw, diwydiant, masnach neu swyddi.

“O fewn tridiau i gyrraedd cytundeb yn Chequers hi’n mynd i gyfarfod Donald Trump ac yn siarad am drefniadau masnach gydag America,” meddai Jeremy Corbyn.

“Does ar yr Unol Daleithiau ddim eisiau unrhyw safon Ewropeaidd o reoleiddio ar gynhyrchion na hawliau gweithwyr, mae arnyn nhw eisiau rhywbeth gwahanol iawn.

“Dyw Theresa May ddim yn ei gwneud yn glir o gwbl beth mae arni hi ei eisiau mewn gwirionedd, a dw i’n meddwl y bydd y Papur Gwyn yn dadfeilio mor gyflym ag y gwnaeth cytundeb y cabinet yn Chequers.

“Os na all y llywodraeth gyflwyno rhywbeth sy’n debyg i berthynas gall gydag Ewrop yn y dyfodol, yna dw i’n meddwl mai’r peth gorau fyddai cael etholiad cyffredinol i ethol llywodraeth a all weithio dros swyddi a safonau byw yn y wlad yma, a chael perthynas gall gydag Ewrop.”