Mae disgwyl rhagor o brotestiadau yn erbyn Donald Trump wrth iddo dreulio deuddydd yn yr Alban ar ddiwedd ei ymweliad dadleuol â Phrydain.
Cyrhaeddodd ei awyren, Air Force One, faes awyr Prestwick yn Glasgow neithiwr, nos Wener, ar gyfer arhosiad preifat yn ei gyrchfan golff enwog, Turnberry.
Wrth i ddegau o filoedd o brotestwyr orymdeithio mewn dinasoedd ledled Prydain ddoe, dywedodd Donald Trump fod y berthynas rhwng America a Phrydain “mor arbennig ag y gallai fod”.
Ar ôl gwneud sylwadau damniol am Theresa May mewn cyfweliad papur newydd, ymddiheurodd i’r Prif Weinidog, gan wadu iddo ei beirniadu a honni mai ‘newyddion ffug’ oedd y stori.
Yn ddiweddarach, fe fu’n cyfarfod y Frenhines yng nghastell Windsor.
Mae disgwyl miloedd o bobl yng Nghaeredin ar gyfer Carnifal o Wrthsefyll yn ardal Meadows o’r ddinas, ac mae protestiadau wedi cael eu trefnu hefyd y tu allan i’r Trump International Golf Links yn Balmedie, Swydd Aberdeen ac yn Turnberry.