Dylai plant gael dysgu am undebau llafur a hawliau gweithwyr mewn ysgolion, yn ôl Jeremy Corbyn.

Wrth annerch undebwyr yn y Durham Miners Gala – prif ŵyl y mudiad llafur ym Mhrydain – heddiw, fe fydd yn dadlau y dylai plant gael gwybod am egwyddorion undebaeth.

“Yn ogystal â dysgu am undebau a’u hawliau yn y gwaith, dylai plant gael eu harfogi’n llawn i weithredu a datblygu’r hawliau hyn,” meddai.

“Mae angen i ysgolion ddysgu’r gwerthoedd hyn a gyda’n gilydd fe allwn, ac fe wnawn, drawsnewid cymdeithas fel ei bod yn gweithio i’r llawer, nid yr ychydig.

“Ers yn llawer rhy hir, mae undebau llafur wedi cael eu gwthio i’r ymylon a’u tanseilio, a gweithwyr ar eu colled, tra bod mwy a mwy o arian yn leinio pocedi cyfranddalwyr.

“Bydd y llywodraeth Lafur nesaf yn adfer hawliau undebau llafur, ond mae angen inni hefyd sicrhau bod pobl ifanc yn dysgu am egwyddorion cydweithio ac ymgyrchu.”