Mae amryw o Aelodau Seneddol wedi beirniadu Arlywydd yr Unol Daleithiau am ei sylwadau ym mhapur newydd The Sun heddiw.

Tros saith tudalen gynta’r papur mae Donald Trump yn beirniadu cynlluniau Brexit y Prif Weinidog, Theresa May, ac yn awgrymu na fydd cytundeb i fasnachu gydag America yn bosib.

Mae hefyd yn nodi y byddai Boris Johnson – cyn-weinidog sydd wedi achosi cryn dipyn o drafferth i Theresa May – yn gwneud “Prif Weinidog gwych”.

Ym marn yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Sarah Wollaston, mae’r Arlywydd yn “benderfynol o sarhau” y Prif Weinidog.

Yn ôl Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, mae Donald Trump wedi dod i wledydd Prydain i “fychanu”.

Ac mae Donald Trump wedi bod yn “hynod o anghwrtais” tuag at Theresa May, yn ôl yr Aelod Seneddol Llafur, Emily Thornberry.