Mae dau berson wedi cael eu cyhuddo gan yr heddlu ar ôl i werth £1.2m o’r cyffur cocên gael ei ganfod ym maes awyr Gatwick.

Yn ôl yr awdurdodau, mi wnaethom nhw ddarganfod 15kg o’r cyffur dosbarth A mewn cas dillad ar ôl atal dau deithiwr a oedd newydd deithio o ynys Aruba yn y Caribî ar Orffennaf 6.

Mae dyn 31 oed o’r Eidal, o’r enw David Fasano, ynghyd â dynes 25 oed o Sbaen, Tania Cedino-Piguane, wedi cael eu cyhuddo o fewnforio cyffur dosbarth A.

Fe ymddangosodd y ddau yn Llys Ynadon Croydon ddechrau’r wythnos, ac fe fyddan nhw’n parau yn y ddalfa tan eu ymddangosiad yn Llys y Goron Croydon ar Awst 14.