Mi fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn cyfarfod â’i chabinet ar ei newydd wedd heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 10).

Daw hyn ar ôl diwrnod llawn cyffro yn San Steffan ddoe, pan ymddiswyddodd dau aelod blaenllaw.

Yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis, oedd y cyntaf i fynd yn hwyr nos Sul, wrth iddo ymddiswyddo oherwydd ei anfodlonrwydd â pholisi Brexit a gafodd ei gytuno mewn cyfarfod yn Chequers dydd Gwener diwetha’.

Erbyn canol y pnawn, daeth cadarnhad bod yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, hefyd wedi ymddiswyddo, a hynny am resymau tebyg.

Mae Dominic Raab wedi’i benodi i olynu David Davis yn Ysgrifennydd Brexit, tra bod Jeremy Hunt – y cyn-Ysgrifennydd Iechyd – wedi cymryd swydd Ysgrifennydd Tramor.

Gwrthwynebiad

Bu tipyn o anfodlonrwydd tuag at Theresa May o fewn y Blaid Geidwadol neithiwr, yn enwedig ymhlith yr aelodau hynny sydd fwyaf o blaid Brexit ‘caled’.

Ond does dim sicrwydd eto os oes yna ddigon o gefnogaeth o fewn y blaid i unrhyw her i’w harweinyddiaeth.

Yn ôl rheolau’r Blaid Geidwadol, mae angen 48 llofnod gan Aelodau Seneddol Ceidwadol – sef 15% o’r blaid seneddol – i gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn yr arweinydd.

Er hyn, mae cadeirydd y Pwyllgor 1922 – sy’n cynrychioli aelodau meinciau cefn y Blaid Geidwadol – wedi gwrthod dweud os yw e wedi derbyn y rhif hwnnw o lofnodion neu beidio.

Apêl Theresa May

Mi anerchodd Theresa May y pwyllgor neithiwr, gyda rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn dweud ei bod hi wedi annog aelodau’r meinciau cefn i’w chefnogi.

Mae’n debyg ei bod hi wedi cynnig y rhybudd y bydd Jeremy Corbyn yn ffurfio llywodraeth os na fydd y rhwygiadau o fewn y Blaid Geidwadol yn cael eu datrys.