Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin y prynhawn yma (dydd Llun, Gorffennaf 9), mae Theresa May wedi rhoi teyrnged i’r ddau aelod blaenllaw o’i Chabinet sydd wedi ymddiswyddo.

Fe aeth yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis neithiwr, a’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson heddiw.

Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn amddiffyn ei chynllun newydd ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd gan ddweud “dyma’r Brexit iawn”.

Daw hyn yn sgil cyfarfod o’r Cabinet yn Chequers ddydd Gwener (Gorffennaf 6) lle cytunodd gweinidogion ar gynlluniau y Prif Weinidog – cynllun a fyddai’n cadw cysylltiad agos rhwng y Deyrnas Unedig a Brwsel.

Wrth annerch Aelodau Seneddol, dywedodd Theresa May ei bod wedi gwrando ar “bob fersiwn o Brexit” a mynnodd unwaith eto ei bod yn dilyn y trywydd cywir.

Ddim yn cytuno

Wrth roi teyrnged i David Davis a Boris Johnson am eu gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf, dywedodd Theresa May:  “Dydyn ni ddim yn gytûn ar y ffordd orau o gyflawni ein hymrwymiad i barchu canlyniad y refferendwm.

“Ond hoffwn gydnabod gwaith David Davis am ei waith wrth sefydlu adran newydd, ac am lywio peth o’r ddeddfwriaeth bwysicaf ers degawdau, trwy’r Senedd.

“Yn yr un modd yr angerdd y gwnaeth y cyn-Ysgrifennydd Tramor ei ddangos wrth hybu Prydain i’r byd wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.”

Bellach mae Downing Street wedi cyhoeddi y bydd Dominic Raab yn olynu  David Davis yn Ysgrifennydd Brexit.

Ond dyw enw olynydd Boris Johnson yn y Swyddfa Dramor ddim wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn.

“Siop siafins”

“Mae’r holl ffraeo a chwympo mas yn bradychu pawb sydd eisiau cael y cytundeb Brexit gorau posib i Brydain,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mewn neges ar Twitter.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn siop siafins llwyr dros Brexit. Mae angen gweithredu nawr i sortio’r llanast – mae byd busnes angen sicrwydd ac mae’r wlad eisiau arweiniad cryf.”