Mae’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis, wedi ymddiswyddo ddyddiau’n unig ar ôl i Gabinet Theresa May gutuno ar gynllun a fyddai’n cadw cysylltiad agos rhwng y Deyrnas Unedig a Brwsel.

Mae David Davis wedi bod yn hynod feirniadol o agwedd y Llywodraeth tuag at Brexit ac mae ei ymddiswyddiad yn golygu bod y Prif Weinidog nawr yn wynebu argyfwng ac o bosib her i’w harweinyddiaeth.

Yn ei lythyr ymddiswyddo, mi ddywedodd David Davis fod y “duedd bresennol o bolisi a thactegau” yn ei gwneud yn “llai a llai tebygol” y bydd Brexit yn cael ei gyflawni ar sail canlyniadau’r refferendwm ddwy flynedd yn ôl.

Mi fyddai “cyfeiriad cyffredinol” polisi’r Llywodraeth – sef glynu’n agos at safonau’r Undeb Tollau a’r Farchnad Sengl – meddai hefyd, yn gadael y Deyrnas Unedig mewn “sefyllfa wan” yn y trafodaethau â Brwsel.

Serch hynny, mae wedi dweud ei fod yn credu y dylai Theresa May aros yn Brif Weinidog.

Ymateb y Prif Weinidog

Wrth ymateb i ymddiswyddiad David Davis, mi ddywedodd Theresa May nad oedd hi’n “cytuno” ar ei safbwynt “o’r polisi a gafodd ei gytuno gan y Cabinet ddydd Gwener.”

Er hyn, roedd hi’n “sori” bod David Davis wedi gadael y Llywodraeth, ar ôl iddo wneud “cymaint o gynnydd tuag at ddarparu Brexit llyfn a llwyddiannus” ar drothwy’r dyddiad ymadael ym mis Mawrth 2019.

Mae disgwyl y bydd Theresa May yn gwneud cyhoeddiad yn Nhŷ’r Cyffredin yn hwyrach yn y dydd heddiw, lle bydd yn mynnu mai’r strategaeth a gafodd ei chytuno yn Chequers ddydd Gwener yw’r “Brexit cywir” i’r Deyrnas Unedig.

Fe fydd enw’r Ysgrifennydd Brexit newydd yn cael ei gyhoeddi am 9yb heddiw (dydd Llun, 9 Gorffennaf).

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi ymateb i’r cyhoeddiad am ymddiswyddiad David Davis gan ddweud bod hyn yn dangos bod y Llywodraeth “mewn anrhefn lwyr.”