Mae aelod profiadol o’r Urdd Oren yn ardal Portadown yng Ngogledd Iwerddon, yn gwrthod cerdded i ffwrdd oddi wrth y ddadl tros orymdeithio yn Drumcree.

Ugain mlynedd ers y brotest yn 1998, mae Darryl Hewitt wedi dweud wrth aelodau lleol yr Urdd y dylen nhw “ddal ati i weithio’n galed er mwyn cael y maen i’r wal”.

Mae Comisiwn y Gorymdeithiasu wedi gwahardd yr Urdd Oren rhag martsio i lawr ffordd weriniaethol gan fwyaf Garvaghy Road ers 1998. A phob dydd Sul, mae aelodau o’r Urdd yn lleol yn cynnal protest yn erbyn y penderfyniad.

“Eto fyth, mae’r Comisiwn Gorymdeithio wedi dweud ‘Na’ i’n cais ni i fartsio ar hyd y ffordd honno,” meddai Darryl Hewitt.

“Ac yn fwy na hynny, fe gawson ni wybod yr wythnos yma nad ydan ni’n cael ein hystyried yn bobol y byddai’r Comisiwn yn gofyn eu barn nhw ynglyn â’r parêd yma, dydan ni ddim yn cael ein gweld fel ‘onterested parties’… Pa mor rhyfedd ydi hynna?

“Wythnos ar ol wythnos, ac yn enwedig ar yr adeg yma o’r flwyddyn, mae’r Comisiwn yn cyhoeddi gorchmynion sy’n effeithio ar ein Urdd ni… Mae’n bryd i wleidyddion sefyll i fyny ac atgoffa’r llywodraeth nad yw’r mater yma yn mynd i ddiflannu.”

Mae Darryl Hewitt yn galw ar Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon i gynnal trafodaethau er mwyn datrys yr anghydfod.