Mae dyn yn ei 20au oedd yn teithio mewn tractor, wedi’i ladd mewn gwrthdrawiad yng Ngogledd Iwerddon.
Fe gafodd y dyn ei ladd yn Drumbo, County Down, nos Wener (Gorffennaf 6).
Yn ol yr heddlu, roedd yn teithio – ac nid yn gyrru – y tracor gwyrdd John Deere. Y gred ydi fod y cerbyd wedi gadael y ffordd toc wedi 9.15yh.
Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y digwyddiad.