Mae arweinydd y blaid Lafur yn galw am sefydlu gŵyl y banc newydd, petai Lloegr yn llwyddo i ennill Cwpan y Byd pêl-droed yn Rwsia eleni.

Yn ol Jeremy Corbyn, fe fyddai yna “lawer o hapusrwydd” pe bai’r Llewod yn fuddugoliaethus, “ac fe fyddai’n syniad da sefydlu gwyliau cyhueddus er mwyn helpu pobol i ddathlu”. Fe allai’r ŵyl banc fod yn “ddathliad o chwaraeon i bawb” meddai wedyn.

“Dw i’n ddigon hen i gofio 1966 (y tro diwethaf i Loegr ennill Cwpan y Byd), roedd o’n fendigedig, a gwylio’r cyfan ar set deledu ddu a gwyn,” meddai ar ymweliad ag Essex heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 7).

“Os y bydd Lloegr yn ennill y Cwpan, fe fydd yna lawer o hapusrwydd, ac fe fydd yna lawer o bobol yn mynd i fwynhau eu hunain – fe fydd rhai hyd yn oed yn yfed eitha’ tipyn…

“A dyna pam rydan ni’n awgrymu, pam ddim rhoi gwyl y banc arbennig ar gyfer y diwrnod hwnnw, jyst ar gyfer dathlu.

“Edrychwch ar chwaraewyr Lloegr,” meddai Jeremy Corbyn wedyn. “Maen nhw’n dod o bob math o wahanol gefndiroedd, bob math o lefydd, ac maen nhw wedi chwarae ar bob math o wahanol lefelau…

“Felly, beth am wneud y diwrnod yn ddathliad o chwaraeon ar gyfer pawb?”

Fe fydd gêm 8-olaf Lloegr yn erbyn Sweden yn dechrau am 3yp heddiw.