Mae Theresa May yn wynebu dipyn o frwydr os yw am ennill cefnogaeth yr amheuwyr, yn dilyn cyfarfod rhyngddi hi a’i gweinidogion yn Chequers ddydd Gwener (Gorffennaf 6).

Dydi ei chynllun ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, tra’n arddel rhyw gysylltiad er mwyn gallu parhau i fasnachu a theithio, ddim yn plesio’r rheiny sydd am weld Brexit ‘caled’ yn dod i fod ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Mae Jacob Rees-Mogg, arweinydd y grwp dylanwadol, European Research Group of pro-Brexit Conservative MPs, yn dweud ei fod yn awyddus i weld mwy o fanylion yr hyn sydd wedi’i gytuno. Ond mae’n rhybuddio y gallai ildio ar y “llinellau coch” pendant tros ffiniau a masnach, wneud pethau’n “amhosib”.

Mae’r aelod meinciau cefn, Andrea Jenkyns hefyd yn dweud ei bod hi’n “aros am y manylion” cyn penderfynu a fydd hi’n cefnogi galwadau am herio arweinyddiaeth Theresa May.

Mae’r Ewrosgeptig, Syr Bill Cash, wedi bod ar y cyfryngau Llundeinig hefyd yn dweud ei fod “wedi’i siomi’n ofnadwy” gan gynlluniau diweddaraf Theresa May, a bod y cynlluniau’n “codi nifer fawr o gwestiynau difrifol”.

Mae Theresa May wedi dweud bod ei chabinet cyfan yn derbyn cyfrifoldeb am y cynlluniau diweddaraf, wedi iddyn nhw dreulio diwrnod hirfaith yn Chequers ddydd Gwener yn trafod a chytuno. Fydd hi ddim yn goddef unrhyw un yn golchi’u dwylo o’r cyfrifoldeb am yr hyn gytunwyd, meddai.