Mi fydd Donald Trump yn cael ei gadw o ddinas Llundain yn ystod ei ymweliad â’r Deyrnas Unedig yr wythnos nesa’ -/a hynny er mwyn osgoi protestwyr.

Yr ymweliad ddiwedd yr wythnos nesa’ fydd y tro cynta’ i Donald Trump ymweld â gwledydd Prydain yn swyddogol yn rhinwedd ei swydd yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Mi fydd y daith yn ei weld yn cyfarfod â’r Prif Weinidog yn ei chartre’ gwledig yn Chequers, ynghyd â’r Frenhines yng Nghastell Windsor.

Mi fydd wedyn yn treulio’r penwythnos yn yr Alban, lle mae disgwyl iddo dreulio ychydig amser yn chwarae golff.

Dim ond noson y bydd ef a’i wraig, Melania Trump, yn treulio yn Llundain, a hynny yn Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau ym Marc Regent.

Disgwyl protestio

Mae disgwyl i gannoedd o brotestwyr ymgasglu ar strydoedd Llundain yn ystod dyddiau’r ymweliad, a hynny mewn gwrthwynebiad i daith yr Arlywydd.

Bydd balŵn anferth o Donald Trump yn hedfan dros y Senedd hefyd, gyda Maer Llundain, Sadiq Khan, eisoes wedi rhoi caniatâd i’r digwyddiad fynd yn ei flaen.

Wrth ymateb i’r ffaith na fydd Donald Trump yn gweld llawer o Lundain, dywed llefarydd ar ran Stryd Downing mai’r nod yw rhoi “cyfle i’r Arlywydd weld a phrofi’r Deyrnas Unedig y tu hwnt i Lundain a’r de-ddwyrain.”