Mae’r heddlu wedi dal dyn 18 oed fu wrthi am fisoedd yn rhedeg yn noeth ar hyd llwybrau yn Durham, gan styrbio sawl rhedwraig.
Ers mis Ebrill mae tua dwsin o ferched wedi achwyn wrth yr heddlu am y rhedwr oedd yn gwisgo dim byd ond ei bymps, ac yn ymddangos o’r gwrych cyn rhedeg wrth ochrau’r merched.
Bu sawl plusmones yn gwisgo fel rhedwraig a loncian ar hyd y llwybrau dan sylw, ond ni chafwyd mo’r dihiryn.
Ond daeth y datrysiad pan welodd yr heddlu dderbynneb a phaced gwag o dda-das Haribo, ar lawr wrth hen bont lle’r oedd y dinoethwr wedi bod yn cuddio, cyn neidio allan a dangos ei hun.
Fe welodd yr heddlu bod amser a lleoliad prynu’r da-da ar y dderbynneb, ac fe gawson nhw luniau CCTV o’r dihiryn yn prynu’r Haribos.
Fe gadarnhaodd sawl un o’r merched mai’r rhedwr noeth oedd y dyn yn y lluniau CCTV, ac fe lwyddodd yr heddlu i’w adnabod a’i arestio.
Bellach mae dyn 18 oed wedi cyfaddef llu o droseddau.
Fe fydd yn treulio pedwar mis ar gwrs arbennig i geisio ei atal rhag ymddwyn yn anweddus.