Roedd dau o bob tri o’r rhai fu’n gysylltiedig a’r terfygsoedd yn ninasoedd Lloegr wedi troseddu yn y gorffennol – ond er  bod pob un wedi troseddu 15 gwaith o’r blaen, ar gyfartaledd, doeddan nhw erioed wedi cael eu carcharu.

Mae’r ffigyrau newydd gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn dangos bod un o bob pedwar o’r rhai gafodd eu cyhuddo yn ymwneud â’r lladradau a thrais yn ystod y terfysgoedd yn ninasoedd Lloegr dros yr haf, wedi troseddu deg gwaith yn y gorffennol.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyfiawnder Prydain Kenneth Clarke bod y ffigyrau yn cadarnhau mai cyn-droseddwyr  oedd wedi bod yn terfysgu fis diwethaf.

Cafodd y manylion eu cyhoeddi wrth i’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Iain Duncan Smith ddweud bod y dosbarth canol wedi anwybyddu’r problemau yn wynebu pobl oedd yn byw ar stadau tai cyngor difreintiedig am flynyddoedd ac wedi talu’r pris pan ddaeth y terfysgwyr i ganol y dinasoedd.

‘Dedfrydau mwy llym’

O’r 16,598 cyn droseddau a gyflawnwyd gan y rhai sydd wedi eu cyhuddo o fod yn rhan o’r terfysgoedd, roedd y troseddau’n ymwneud â dwyn, cyffuriau a thrais.

Dywedodd Mr Clarke ei fod yn siomedig i weld bod nifer o gyn-droseddwyr yn ymddangos eto gerbron y llysoedd. Ond ychwanegodd y byddai carchardai yn gwneud i droseddwyr weithio’n galed, ac y byddan nhw’n ymdrechu i’w helpu i roi’r gorau i gyffuriau ac alcohol, rhoi  dedfrydau mwy llym a gwneud i droseddwyr dalu nôl i ddioddefwyr a chymunedau am eu troseddau.