Mae’r chwilio’n parhau am eitem sydd wedi’i heintio a’r nwy nerfol Novichok ar ôl i gwpl gael eu taro’n wael yn Wiltshire.

Dywed yr heddlu na allen nhw ddiystyru y bydd rhagor o bobol yn cael eu taro’n wael ar ôl dod i gysylltiad â’r nwy nerfol. Mae’n debyg bod olion o Novichok wedi’i adael ar ôl yn dilyn ymgais i lofruddio Sergei a Yulia Skripal yn Salisbury.

Cafodd Dawn Sturgess, 44, a Charlie Rowley, 45, eu taro’n wael ddydd Sadwrn yn Amesbury, sydd tua wyth milltir o’r safle lle cafodd y cyn-ysbïwr Rwsiaidd a’i ferch eu gwenwyno ym mis Mawrth.

Mae’r digwyddiad diweddaraf wedi arwain at ffrae ddiplomyddol gyda’r Ysgrifennydd Cartref Sajid Javid yn cyhuddo Rwsia o ddefnyddio Prydain fel safle “i waredu a gwenwyn”.

Ymatebodd Llysgenhadaeth Rwsia drwy gyhuddo’r Llywodraeth o geisio “codi ofn ar ei dinasyddion ei hun.”

Un esboniad am y digwyddiad yw bod y cwpl wedi dod o hyd i eitem mewn man cyhoeddus oedd wedi’i ddefnyddio i gludo’r nwy nerfol ar gyfer yr ymosodiad ar Sergei a Yulia Skripal.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu Metropolitan eu bod nhw’n gweithio mor gyflym â phosib i geisio dod o hyd i darddiad y nwy nerfol.