Mae daeargryn arall wedi taro siroedd Sussex a Surrey, lai nag wythnos ar ôl i ddau gryndod gael eu teimlo yn yr ardal.

Fe gafodd yr ardal ei hysgwyd heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 5), gyda theithwyr ym Maes Awyr Gatwick yn profi’r trydydd daeargryn o fewn saith mis.

Mae’r ardal gyfan wedi cael ei tharo gan gyfres o gryndodau yn ystod yr wythnosau diwethaf, a hynny am y tro cyntaf ers 50 mlynedd. 

Cofnodwyd daeargryn o faint 3.1 am 10.53yb yn Newdigate, tair milltir (5km) o dan wyneb y ddaear, yn ôl Arolwg Daearegol Prydain (BGS).