Mae chwarter y boblogaeth yn bwriadu llenwi’r pwll padlo’r penwythnos hwn wrth i’r tywydd poeth barhau, gan roi mwy o bwysau ar gyflenwadau dŵr, awgryma arolwg.

Mae rhyw 27% o’r 2,004 o oedolion a gafodd eu holi fel rhan o arolwg ar gyfer yr elusen amgylcheddol Hubbub, yn dweud y byddan nhw’n pwll padlo allan i’w teuluoedd dros y penwythnos.

Y duedd ydi gosod pyllau padlo rhad, anferth, yn yr ardd fel y gall plant ac oedolion eu mwynhau, ond mae llenwi’r pwll yn cymryd 530 litr ar gyfartaledd. Mae Hubbub yn rhybuddio fod hynny dair gwaith y ddogn ddyddiol o ddŵr y mae pob person yn ei ddefnyddio.

Gallai hynny olygu bod 3.9 biliwn litr yn cael ei ddefnyddio i lenwi pyllau mewn gerddi cefn ledled y wlad.

Gallai hyn, ynghyd â phobl sy’n cymryd cawodydd hirach a defnyddio pibellau dwr yn amlach, arwain at rai aelwydydd yn wynebu pwysedd dŵr isel wrth i gwmnïau ymdrechu i barhau â’r galw, mae Hubbub yn rhybuddio.