Mae bachgen yn ei arddegau wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn dilyn marwolaeth merch yn un o ynysoedd yr Alban.

Fe gafwyd Alesha MacPhail yn farw mewn coedwig ddydd Llun (Gorffennaf 2), rai oriau wedi i’r heddlu dderbyn adroddiadau ei bod ar goll.

Roedd y ferch ysgol chwech oed wedi teithio i Ynys Bute i aros â pherthnasau.

Mae’n debyg bod y llanc sydd yn y ddalfa yn iau nag 18, ac mae heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth Alesha MacPhail.

Hyd yma dyw’r heddlu ddim wedi cyhoeddi sut y bu hi farw.