Mae cwpwl a chafodd eu darganfod mewn cyflwr difrifol yn Wiltshire, wedi’u gwenwyno â’r un deunydd a gafodd ei ddefnyddio yn ymosodiad Salisbury yn gynharach eleni.

Dawn Sturgess a Charlie Rowley yw enwau’r ddaur pâr, yn ôl pobol leol, ac fe gafodd y ddau eu taro’n sâl dros y penwythnos yn Amesbury.

Mae’r dre’ honno rhyw wyth milltir o Salisbury, sef y ddinas lle cafodd Sergei Skripal a’i ferch Yulia, eu gwenwyno â’r cemegyn novichok.

Ac mae’n ddigon posib bod y pâr o Amesbury wedi cael eu gwenwyno ar ôl dod ar draws y cemegyn, tra’r oedden nhw yn Salisbury.

“Dydyn ni methu dweud â sicrwydd mai’r un llwyth o gemegau a wenwynodd y Skripals, yw’r llwyth hyn,” meddai Neil Basu, Comisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu Metropolitan.

“Ond yn amlwg, rydym yn ystyried y posibiliad bod yna gysylltiad rhwng y ddau ymchwiliad.”

Gwenwyno

Fe gafodd swyddogion eu galw i gartref ar Ffordd Muggleton, Amesbury, fore Sadwrn (Mehefin 30), pan aeth dynes 44 oed yn sâl.

Bu’n rhaid iddyn nhw ddychwelyd wedi hynny, pan aeth y dyn, 45, hefyd yn sâl.

Yn wreiddiol, roedd Heddlu Wiltshire yn credu eu bod wedi cymryd cocên neu heroin gwenwynig.

Ond ddydd Mercher (Gorffennaf 4) cyhoeddodd labordy Porton Down mai Novichok yw’r deunydd sydd wedi’u gwenwyno.