Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddio wyth o fabanod, ac o geisio llofruddio chwe baban arall mewn ysbyty.

Daw’r arestiad fel rhan o ymchwiliad i farwolaethau babanod yn Ysbyty Countess of Chester, ac mae’n debyg bod y ddynes yn weithiwr iechyd.

Cafodd yr ymchwiliad ei lansio ym mis Mai’r llynedd, er mwyn ymchwilio i 15 marwolaeth rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.

Ond bellach mae Heddlu Sir Gaer wedi cyhoeddi bod ffocws yr ymchwiliad wedi ehangu, ac y byddan nhw’n ymchwilio i 17 marwolaeth – a 15 achos amwys – rhwng Mawrth 2015 a Gorffennaf 2016.

Dyw hi ddim yn glir os mai nyrs, doctor neu weithiwr iechyd proffesiynol oedd y ddynes.

Ac mae’n debyg bod achosion teuluoedd o ogledd Cymru yn cael eu hystyried.

Yr ysbyty

Mae Ysbyty Countess of Chester wedi datgan y byddan nhw’n cydweithio â’r heddlu, ac yn mynnu bod eu huned fabanod yn ddiogel.

“Rydym yn parhau i gynorthwyo Heddlu Sir Gaer gyda’u hymchwiliad,” meddai Cyfarwyddwr Meddygol yr ysbyty, Ian Harvey.

“Nid ar chwarae bach y mae rhoi cais am ymchwiliad o’r fath. Ond, rhaid i ni wneud popeth y gallwn er mwyn deall yr hyn sydd wedi digwydd fan hyn. Ac er mwyn cael yr atebion mae’r teuluoedd yn dymuno’n fawr.”