Mae Peter Firmin, oedd wedi cyd-greu nifer o raglenni teledu poblogaidd i blant, wedi marw’n 89 oed.

Ymhlith ei raglenni enwocaf mae The Clangers, Bagpuss, Basil Brush ac Ivor The Engine.

Cafodd ei ddisgrifio gan lefarydd fel un a chanddo “gryn sgil mewn amryw o ddisgyblaethau creadigol”.

Fe gydweithiodd ag Ivan Owen i greu Basil Brush, ac Oliver Postgate i greu Bagpuss, The Clangers, Ivor the Engine, Noggin the Nog a Pogles Wood.

Ychwanegodd y llefarydd fod i’w gymeriadau “apêl mor hudolus a hirhoedlog sy’n para hyd heddiw”.

Cafodd Bagpuss ei dewis fel y rhaglen i blant fwyaf poblogaidd erioed yn 1999.

Derbyniodd Peter Firmin Wobr Cyfraniad Oes gan Bafta yn 2014.