Mae Theresa May yn galw am undod ymhlith arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn erbyn ymyrraeth Rwsia.

Yn ogystal â pharhau gwaharddiadau a gafodd eu gosod ar ôl i Rwsia feddiannu’r Crimea, mae hi’n pwyso am fesurau pellach i fynd i’r afael â phropaganda a newyddion ffug sy’n deillio o Moscow.

“Mae Rwsia ac eraill yn ymddangos fel petaen nhw’n benderfynol o hau rhaniadau ac ansefydlogi ein democratiaethau,” meddai.

“Rhaid inni addasu ein hamddiffynfeydd presennol a chymryd cyfrifoldeb trwy warchod safonau a sefydliadau rhyngwladol.

“Mae angen i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ddangos eu cyfrifoldeb ar y cyd i fynd i’r afael â llif ariannol anghyfreithlon gan y rheini sy’n gysylltiedig yn aml â chyfundrefnau gelyniaethus.”

Daw ei galwad ar ôl i dystiolaeth gynyddol ddod i’r amlwg fod llywodraeth Rwsia wedi helpu ymgyrchwyr Brexit yn ystod y refferendwm yn 2016.