Mae cwpwl heterorywiol wedi ennill yr hawl i gael eu huno gan bartneriaeth sifil – ac fe allai’r dyfarniad arwain at ymestyn partneriaethau sifil y tu hwnt i gyplau o’r un rhyw.

Yn ôl y gyfraith, mae partneriaethau sifil wedi’u neilltuo ar gyfer cyplau o’r un rhyw ond roedd Rebecca Steinfeld, 37, a Charles Keidan, 41, yn dadlau bod hynny’n gwahaniaethau yn eu herbyn.

Ac maen nhw wedi ennill yr hawl i gynnal apêl yn dilyn dyfarniad unfrydol gan bump barnwr yn y Goruchaf Lys.

Mae’n gwyrdroi penderfyniad y Llys Apêl fis Chwefror y llynedd ar ôl bod yn ystyried yr achos fis diwethaf.

Dyfarniad

Yn ôl y Goruchaf Lys, mae’r ddeddf a gyflwynodd bartneriaethau sifil yn 2004 yn “anghymarus” â deddfau hawliau dynol.

Wrth gyhoeddi’r dyfarniad, dywedodd y barnwyr nad yw’r gyfraith fel ag y mae yn “ceisio cyfiawnhau’r gwahaniaeth wrth ymdrin â chyplau o’r un rhyw a chyplau o ryw gwahanol”.

Fe gyhuddodd Lywodraeth Prydain o geisio “goddefgarwch o wahaniaethu” wrth geisio sicrhau ateb i’r sefyllfa, ac na ddylid dilysu hynny.

Aeth y cwpwl at y llys am fod ganddyn nhw “wrthwynebiad ideolegol” i briodas am resymau patriarchaidd.

Fe ddywedon nhw y tu allan i’r llys eu bod nhw “wrth eu bodd” gyda’r dyfarniad.