Mae tân gweundir mawr ym Manceinion wedi gorfodi trigolion lleol i symud o’u cartrefi dros nos.
Mae’r digwyddiad yn cael ei ddisgrifio fel un “mawr” gan yr heddlu, sydd wedi gofyn i’r fyddin fod yn barod i gynorthwyo pe bai angen.
Cafodd trigolion yn ardal Carrbrook yn Stalybridge gyngor i adael eu cartrefi wrth i’r gwasanaeth tân geisio diffodd y fflamau.
Fe ddechreuodd y tân nos Sul, ond fe gafodd ei gynnau unwaith eto yn y gwres ddydd Llun, ac mae gwyntoedd cryfion yn golygu bod y fflamau’n lledu.
Mae’n bosib gweld y mwg o filltiroedd i ffwrdd, yn ôl lluniau ar wefannau cymdeithasol.
Mae lle i gredu nad yw unrhyw un wedi cael anafiadau yn sgil y tân, ond mae trigolion wedi cael rhybudd i gau eu drysau a’u ffenestri am y tro.
Mae dwy ysgol leol ynghau tra bod y gwasanaeth tân yn ceisio diffodd y fflamau.