Prawf gyrru caletach yw un o brif argymhellion y Pwyllgor Trafnidiaeth yn San Steffan wrth geisio gwella diogelwch ar y ffyrdd.

Maen nhw’n dweud fod angen i yrwyr ifanc, yn arbennig, gael eu hyfforddi’n well er mwyn gyrru’n fwy diogel.

Yn ei adroddiad, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, mae’r Pwyllgor hefyd yn galw am roi mwy o sylw i Reolau’r Ffordd Fawr.

Lleihau tagfeydd

Nod arall yr adroddiad yw rhoi sylw i leihau tagfeydd ar y ffyrdd, gyda galwad am well trefn i leihau’r holl waith codi ffyrdd sy’n cael ei wneud gan gwmnïau ac awdurdodau lleol a mwy o ddefnydd o dechnoleg newydd i reoli traffig.

Er bod llawer o’r argymhellion yn ymwneud â Lloegr, nid Cymru, fe allai un awgrym arall gael effaith ar yrwyr o Gymru – galwad am edrych eto ar y penderfyniad i gael gwared ar lôn fysys ar yr M4 yn ardal Llundain.

Os bydd archwiliad yn dangos bod problemau traffig wedi cynyddu, fe ddylai’r lôn arbennig gael ei hadfer, meddai’r adroddiad.