Mae’r cyhoedd wedi colli ffydd mewn Aelodau Seneddol  dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl gwaith ymchwil gan y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.

Mae’r pwyllgor wedi cyhoeddi gwaith ymchwil sy’n dangos gostyngiad o 20% yn nifer y cyhoedd sy’n credu bod Aelodau Seneddol yn ymroddedig i’w swyddi a’r bobl mae nhw’n eu gwasanaethu.

Roedd yr ymchwil yn dangos mai dim on 26% oedd yn cytuno â’r datganiad, o’i gymharu â 46% pan gynhaliwyd arolwg diwethaf y pwyllgor ar ddiwedd 2008.

Mae’n ymddangos bod y ffigyrau’n adlewyrchu aniddigrwydd y cyhoedd tuag at Aelodau Seneddol yn sgil yr helynt yn ymwneud â threuliau a ddaeth i’r amlwg yn 2009.

Mae’r arolwg diweddaraf, a gynhaliwyd ar ddiwedd 2010 a dechrau 2011, yn dangos mai dim ond 26% sy’n credo bod Aelodau Seneddol yn gymwys yn eu swyddi – gostyngiad o 10% ers 2008.

‘Pryder’

Roedd na ostyngiad hefyd yn nifer y rhai sy’n credu bod ASau wedi colli cysylltiad â’r cyhoedd, tra roedd na ostyngiad o 36% i 22% yn nifer y rhai oedd yn credu bod ASau yn gosod esiampl dda yn eu bywydau personol.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus bod y canlyniadau yn achos “pryder”.

“Mae arolygon blaenorol wedi dangos bod hyder y cyhoedd mewn gweision sifil wedi bod yn gostwng ers 2004. Ond mae canlyniadau arolwg 2010 yn awgrymru bod y gostyngiad wedi cynyddu.”