Mae’r gyfradd hunanladdiad ymhlith myfyrwyr yn uwch nag yr oedd hi ddegawd yn ôl, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Mae data newydd gan y Swyddfa Ystadegau hefyd yn dangos bod dynion yn fwy tebygol o gyflawni’r weithred na’u cyfoedion benywaidd.

Yn 2016/17, roedd yna 4.7 marwolaeth trwy hunanladdiad am bob 100,000 myfyriwr addysg uwch – cyfanswm o 95 marwolaeth.

Ond yn 2006/07, roedd ‘na 77 marwolaeth – sef 3.8 i bob 100,000.

Yn ogystal, yn ystod 2016/17 roedd yna 6.9 marwolaeth i bob myfyriwr gwrywaidd, o gymharu â thair marwolaeth i bob 100,000 myfyrwraig.

“Angen dybryd am ddata”

“Rydym yn pryderu am y cynnydd mewn hunanladdiadau ymhlith myfyrwyr dros y blynyddoedd diwetha’,” meddai Prif Weithredwr y Samariaid, Ruth Sutherland.

“A hoffwn ddeall pam bod hyn yn digwydd, a phwy sy’n wynebu’r risg mwyaf o fewn y boblogaeth … Credwn fod angen dybryd am ddata cyfredol a chynhwysfawr ar y mater.

“Hoffwn weld hyn yn cael ei drin yn flaenoriaeth.”

Mae’r ystadegau yn cyfeirio at Gymru a Lloegr, ac yn dangos nad oes cynnydd o flwyddyn i flwyddyn – cymhariaeth â degawd yn ôl yw’r un yma.

Yn ogystal, mae’r ffigurau yn cyfeirio at fyfyrwyr addysg uwch yn unig – dim addysg bellach ac ati – a’n dangos bod y gyfradd yn is na’r gyfradd i’r boblogaeth gyffredinol.