Fe fydd eiddo’r ysbïwr Rwsiaidd Sergei Skripal a phlismon arall yn Salisbury – sy’n cynnwys cartrefi, ceir ac eiddo amrywiol arall – yn cael eu prynu fel rhan o gytundeb gwerth £1m.

Mae’r Sunday Times yn adrodd y bydd cartre’r ysbïwr a gafodd ei wenwyno yn cael ei brynu gan Lywodraeth Prydain am oddeutu £350,000.

Mae lle i gredu y bydd Heddlu Swydd Wiltshire yn talu oddeutu £430,000 i’r Ditectif Sarjant Nick Bailey, a gafodd ei daro’n wael ar ôl cael ei wenwyno â Novichok ar Fawrth 4.

Mae Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan wedi gwrthod gwneud sylw, ac fe ddywedodd yr heddlu ei fod yn “fater personol”.

Yn gynharach yn y mis, fe ddaeth i’r amlwg y bydd ymateb yr heddlu i’r digwyddiad yn costio £7.5m, ac mae’r heddlu wedi gofyn i’r Swydd Gartref dalu’r gost.