Mae trigolion Thamesmead wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi yn dilyn tân mewn teras heddiw.
Mae wyth injân dan, a 58 o ddynion tân, ar y safle yn ne-ddwyrain Llundain ers 11 o’r gloch.
Mae tri o’r tai ar dân o hyd, yn ôl yr awdurdodau, sy’n ymchwilio i’r hyn sydd wedi ei achosi.
Mae 12 o bobol wedi gadael eu cartrefi, ac mae silindrau nwy wedi cael eu symud rhag ofn eu bod yn ffrwydro yn y gwres.