Mae’r gwasanaeth tân yn ceisio diffodd fflamau mewn warws yn nwyrain Llundain.

Cawson nhw eu galw i ardal Leyton am 5.22 fore heddiw yn dilyn adroddiadau bod mwg i’w weld filltiroedd i ffwrdd.

Mae oddeutu 120 o ddynion tân ac ugain o injanau ar y safle.

Yn ôl yr awdurdodau, roedd oddeutu 60% o’r adeilad dau lawr ar dân, a chafodd trigolion rybudd i gau eu drysau a’u ffenestri.