Mae cyn-bennaeth barics Deepcut, lle bu farw’r Gymraes ifanc Cheryl James, wedi dweud y byddai wedi’i ddychryn pe bai’n cael gwybod bod milwyr dan hyfforddiant wedi cael eu bwlio’n ddifrifol yno.

Bu farw pedwar milwr ifanc yn y barics rhwng 1995 a 2002, a’r ferch 18 oed o Langollen yn eu plith. Bu farw hithau ym mis Tachwedd 1995.

Mae cwest newydd ar fin cael ei gynnal i egluro marwolaeth y cyntaf o’r pedwar i farw, Sean Benton, a gafodd ei ganfod wedi’i saethu pum gwaith.

Daeth y cwest cyntaf i’r casgliad ei fod e wedi lladd ei hun ond mae ei deulu wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i gael ymchwiliad llawn i amgylchiadau ei farwolaeth.

Fe glywodd y cwest dystiolaeth bod y milwyr oedd yn hyfforddi yn y ganolfan wedi bwlio’r sawl dan hyfforddiant, gan gynnwys gwthio eu hwynebau mewn pwll o ddŵr a sgrechian yn eu hwynebau.

Cyn-bennaeth ‘ddim yn gwybod’

Ond mae Paul Evans, oedd yn rheoli’r barics rhwng 1993 a 1996, wedi dweud nad oedd yn ymwybodol o ymddygiad o’r fath.

“Bydden i’n dychryn i gael gwybod am unrhyw ddigwyddiad lle roedd unrhyw berson yn cael ei gam-drin neu ei fwlio,” meddai.

“Dw i’n gwbl sicr pe bai bwlio neu gamdrin yn digwydd neu os oedd yn rhemp, y byddwn i’n gwybod amdano.”

Clywodd y cwest fod y Brigadydd Evans wedi cynnal adolygiad yn dilyn marwolaeth Cheryl James, yr ail berson i farw yn y ganolfan.

Cafodd yr adolygiad hwnnw ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 1995 ond doedd dim sôn am gamdriniaeth ynddo, er bod rhai pethau wedi cyfrannu at “anhapusrwydd y milwyr.”