Mae dyn a honnodd bod ganddo fom yn un o orsafoedd drenau prysuraf Llundain, wedi cael ei arestio.

Bu’n rhaid tywys teithwyr o orsaf Charing Cross fore ddydd Gwener (Mehefin 22), yn sgil adroddiadau bod dyn ar y cledrau.

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn dweud eu bod wrthi’n ceisio ailagor yr orsaf.

“Mae dyn a wnaeth honni fod ganddo fom yng ngorsaf Charing Cross, wedi cael ei arestio,” meddai neges gan yr heddlu ar Twitter.

“Rydym bellach yn gweithio i ailagor yr orsaf cyn gynted ag sy’n bosib. A hoffwn ddiolch i deithwyr a staff am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.”

Cafodd neb eu hanafu yn ystod y digwyddiad, meddai’r Heddlu Metropolitan.