Mae Llywydd y Comisiynydd Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, wedi rhybuddio na fydd dêl Brexit, oni bai bod pob ochr yn gytûn tros ffin Iwerddon.

Yn ogystal, bydd 26 o aelodau’r Undeb Ewropeaidd yn “cefnogi” Iwerddon ar y mater, meddai, ac ni fydd Gweriniaeth Iwerddon yn cael ei “hynysu”.

“Nid mater rhwng Iwerddon a’r Deyrnas Unedig yn unig yw hyn, ond mater rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd,” meddai Jean-Claude Juncker, wrth ymweld â Dulyn.

“Dyw Iwerddon ddim ar eu pennau eu hunain, a hoffwn wneud hynna’n glir… Mae gen i wrthwynebiad cryf tuag at unrhyw ymgais i ynysu Iwerddon.

“Rhaid i Iwerddon fod yn rhan o’r ddêl.”

Y ffin

Ffin yr Ynys Werdd yw’r unig ffin dirol rhwng y Deyrnas Unedig ac yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’r mater yn dipyn o faen tramgwydd yn y trafodaethau Brexit.

Er bod y ddwy ochr yn gobeithio sicrhau bydd masnach tros y ffin yn ddirwystr, mae cwestiynau o hyd ynglŷn â’r drefn wedi Brexit.

Yr wythnos hon, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi galw am ragor o ymdrech i ddatrys y broblem.