Mae disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio ar ymestyn maes awyr Heathrow ddydd Llun nesa’ (Mehefin, 25) – ar ddiwrnod pan na fydd Boris Johnson yn gallu bod yn bresennol.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor ymhlith yr amlycaf yn y Blaid Geidwadol sydd wedi ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau dros y blynyddoedd diwetha’, ond mi fydd mewn cyfarfod rhwng gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwrnod y bleidlais ei hun.

Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Tramor yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw y bydd y Aelodau Seneddol yn cael y cyfle i bleidleisio ddechrau’r wythnos nesa’ ar gynllun a fydd yn golygu creu trydydd glanfa ar gyfer y maes awyr.

Mae yna gryn ddyfalu ynghylch y ffaith bod y bleidlais wedi’i threfnu ar y diwrnod penodol hwnnw er mwyn osgoi gwrthwynebiad wrth yr Ysgrifennydd Tramor.