Mewn pleidlais yn y senedd y prynhawn yma, mae Theresa May wedi llwyddo i drechu gwelliant i fesur Brexit y Llywodraeth o 319 i 303.

Roedd hyn ar ôl cynnig cyfaddawd ar y funud olaf i’r gwrthryfelwyr a oedd yn ceisio sicrhau ymrwymiad o bleidlais ystyrlon i Aelodau Seneddol ar ddiwedd y broses.

Addewid y Llywodraeth bellach yw mai Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, fydd yn cael penderfynu pa fydd o bleidlais fydd Aelodau Seneddol yn ei gael.

Cafodd y consesiwn ei dderbyn gan Dominic Grieve, y Tori gwrth-Brexit a gyflwynodd y gwelliant, ac aeth ymlaen i bleidleisio yn erbyn ei welliant ei hun.

Fodd bynnag, cafodd consesiwn honedig y Llywodraeth ei wawdio fel rhywbeth cwbl ddiystyr gan yr SNP a chwipiaid Llafur.

Ymhlith y chwech o Dorïaid a ddaliodd i bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth roedd y cyn-AC dros Ogledd Cymru, Antoinette Sandbach. Y lleill oedd Kenneth Clarke, Anna Soubry, Sarah Wollaston, Phillip Lee a Heidi Allen.

Fe wnaeth pedwar AS Llafur gwrth-Ewropeaidd gefnogi’r Llywodraeth: Kate Hoey, John Mann, Frank Field a Graham Stringer.